


Croeso i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol.
Bwriad yr adnodd cyffrous a blaengar hwn yw darparu rhestr gynhwysfawr o dermau Cymraeg a Saesneg ac iddynt ddiffiniadau, sy’n ymwneud â’r Diwydiannau Creadigol. Fesul cam y caiff yr adnodd hwn ei greu gydag amrywiol feysydd y diwydiannau creadigol yn cael eu trin a’u trafod yn eu tro. Penderfynwyd bod cryn alw cyfredol am resymoli termau ar gyfer maes y Cyfryngau Newydd o gofio y gwelwyd cynnydd mawr mewn cyrsiau prifysgol ar y pwnc, felly, gyda’r maes hwn y dechreuwyd ar y gwaith o lunio adnodd a ddaw, gobeithio, yn anhepgor i fyfyrwyr, darlithwyr, ymchwilwyr, athrawon ac aelodau o’r diwydiant wrth iddynt drafod y maes bywiog hwn.
Un o brosiectau Panel Rhwydwaith y Diwydiannau Creadigol dan arweiniad a nawdd Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yw Geiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol. Caiff y prosiect ei arwain gan Dr Gwenno Ffrancon ac Elain Dafydd o Adran Cyfathrebu a’r Cyfryngau, Prifysgol Abertawe a’i weithredu gan Delyth Prys, Owain Davies, Dewi Bryn Jones a Gruffudd Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyda chymorth a chefnogaeth Elin Haf Gruffydd Jones, Prifysgol Aberystwyth; Eifion Lloyd Jones ac Eben Muse, Prifysgol Bangor, a Non Vaughan Williams, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
Bu ymgynghori trylwyr hefyd gydag arbenigwyr o’r diwydiant a diolchir iddynt am eu cefnogaeth a’u cyngor gwerthfawr:
W. Dyfrig Davies – Telesgôp
Grahame Davies – BBC Cymru
Geraint Ellis – Cwmni Da
Carys Evans – S4C
Ifor ap Glyn - Cwmni Da
Carol Byrne Jones
Keith Jones – BBC Cymru
Llion Jones – Canolfan Bedwyr
Rhys James Jones
Aled Richards – Awen
Karen Roberts – Ofcom
Hannah Thomas – S4C
Adnodd fydd yn parhau i dyfu yw Geiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol. Mae’n fwriad gennym i ddiweddaru’r termau’n rheolaidd ac ychwanegu meysydd newydd i’r gronfa yn ôl y galw. Croesawn unrhyw ymateb neu sylwadau ar y Geiriadur Termau hwn a gobeithiwn yn fawr y bydd yn adnodd hylaw a dibynadwy i bob defnyddiwr.
Cynllunwyd, datblygwyd a chynhelir y wefan hon gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.
Hawlfraint © 2008.
