English

Defnyddio Geiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol.

1. Dewis Dull Chwilio

Yn gyntaf, dewiswch ddull chwilio o'r gwymplen.

Mae pedwar dull gwahanol o chwilio. Y cyntaf ohonynt yw 'Chwilio am y term canlynol:'.

Defnyddiwch y dull hwn i chwilio am derm penodol, un gair, neu fel gair unigol sy'n rhan o derm mwy. Er enghraifft, bydd chwilio am 'animeiddio' yn dangos y cofnod ar gyfer y term 'animeiddio' yn ogystal â chofnodion ar gyfer termau sy'n cynnwys y gair 'animeiddio', e.e. 'animeiddio cyfrifiadurol'.

Mae'r dull hwn o chwilio yn gallu adnabod ffurfiau lluosog a ffurfiau wedi'u treiglo. Fe ddaw chwiliad am 'amlgyfrwng' o hyd i 'amlgyfryngau all-lein', er enghraifft, a daw chwiliad am 'gwisg' o hyd i'r cofnod 'adran wisgoedd'.

Yr ail ddull o chwilio yw 'Chwilio am derm sy'n cynnwys:'.

Mae'r dull hwn o chwilio yn eich galluogi i chwilio am rannau geiriau. Byddai chwilio am 'lun', er enghraifft, yn dangos pob cofnod sy'n cynnwys 'lun', gan gynnwys 'arlunydd cysyniadau', 'ciplun', 'llun terfynol' ac yn y blaen. Noder nad yw'r dull hwn yn dadansoddi ffurfiau treigledig na ffurfiau lluosog.

Y trydydd dull o chwilio yw 'Chwilio am derm sy'n dechrau gyda:'.

Mae'r dull hwn o chwilio yn gadael i chi chwilio am eiriau neu dermau sy'n dechrau â chyfuniad penodol o lythrennau. Er enghraifft, byddai chwilio am 'ffoto' yn dangos yr holl gofnodion sy'n dechrau gyda 'ffoto', fel 'ffotorealaeth', ond ni fyddai'n dangos y cofnod ar gyfer 'lens teleffoto'. Noder nad yw'r dull hwn yn dadansoddi ffurfiau treigledig na ffurfiau lluosog.

Y dull olaf o chwilio yw 'Chwilio am derm sy'n gorffen gyda:'.

Mae'r dull hwn o chwilio'n eich galluogi i chwilio am eiriau neu dermau sy'n gorffen gyda chyfuniad penodol o lythrennau. Byddai defnyddio'r dull hwn o chwilio gyda 'ffoto' yn dod o hyd i 'lens teleffoto', ond ni fyddai'n canfod 'ffotograffiaeth ddigidol', er enghraifft. Noder nad yw'r dull hwn yn dadansoddi ffurfiau treigledig na ffurfiau lluosog.

2. Chwilio

Wedi i chi ddewis y dull chwilio a theipio'r hyn yr hoffech chwilio amdano yn y blwch gyferbyn, cliciwch ar y botwm chwilio sy'n cyfateb i'r cyfeiriad iaith yr hoffech chi chwilio.

Mae dau fotwm chwilio:

Chwilio Saesneg i Gymraeg - Defnyddiwch hwn pan mai Saesneg yw'r hyn yr ydych wedi'i deipio yn y blwch chwilio.

Chwilio Cymraeg i Saesneg - Defnyddiwch hwn pan mai Cymraeg yw'r hyn yr ydych wedi'i deipio yn y blwch chwilio.

Wedi i chi glicio ar un o'r botymau, bydd eich chwiliad yn cael ei brosesu. Bydd y canlyniadau'n cael eu dangos yn nhrefn yr wyddor briodol ar ôl ychydig eiliadau.


Rhannau Ymadrodd

Dyma restr o fyrfoddau'r rhannau ymadrodd a'u hystyr:

Cymraeg
eg - enw gwrywaidd
eb - enw benywaidd
ell - enw lluosog
ans - ansoddair
be - berfenw

Saesneg
n - noun
v - verb

Prifysgol Abertawe Canolfan Addysg UwcPrifysgol Aberystwyth Coleg y Drindod Prifysgol Bangor Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg

Cynllunwyd, datblygwyd a chynhelir y wefan hon gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.
Hawlfraint © 2008.

llinell